Hysbysiad Preifatrwydd

Prif ddewislen

Hysbysiad Preifatrwydd

Roedd y Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw (TSSWP) yn astudiaeth pedair blynedd wedi ei hariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr a’i chyflwyno gan academydd o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe - www.thestudentsexworkproject.co.uk 

Cafodd y pecyn hyfforddi ar-lein ei ddatblygu gan TSSWP, ac mae wedi ei seilio ar ddarganfyddiadau o astudiaethau a phrofiadau’r staff a oedd yn gweithio ar y prosiect. Bwriad yr hyfforddiant yw codi ymwybyddiaeth o brofiadau’r gweithwyr rhyw sy’n fyfyrwyr er mwyn cael gwared â’r stigma a’r niwed.  Mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd dros 18 oed.

Mae ymgymryd â’r hyfforddiant yn golygu y bydd angen i Brifysgol Abertawe, gan weithredu fel Rheolwr Data, gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol, gydag Atebol yn gweithredu fel prosesydd data trydydd parti. Mae hyn yn cynnwys data personol. Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu hawliau cyfranogwyr, yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 y DU a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.  Mae Swyddog Diogelu Data gan Brifysgol Abertawe a gellir cysylltu â’r unigolyn hwnnw drwy dataprotection@abertawe.ac.uk

Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i gasglu, storio a defnyddio data personol. Yn y ddogfen hon, cewch eglurhad o’n rhesymau dros gasglu data unigol, sut rydym yn ei brosesu a’r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau diogelwch data ar bob adeg.

Mae’r holl ddata a gesglir drwy’r broses ymgeisio ar-lein am hyfforddiant y prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw yn cael ei brosesu a’i storio’n unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

 

Sail Gyfreithiol

Rydym wedi cysylltu â chi naill ai oherwydd eich bod wedi cydsynio i dderbyn e-byst gennym ynghylch cyrsiau neu ddigwyddiadau mewn perthynas â’ch dealltwriaeth o waith rhyw, neu oherwydd natur eich proffil proffesiynol neu’ch swydd yn eich sefydliad, sy’n golygu bod gan y Brifysgol reswm dilys dros eich hysbysu am yr hyfforddiant a allai fod yn ddefnyddiol i chi yn eich rôl. Mae posib ein bod wedi derbyn eich cyfeiriad e-bost yn uniongyrchol gennych chi, neu gan ffynonellau agored megis (ond ddim yn benodol) gwefannau sefydliadol. Os nad ydych eisiau derbyn mwy o wybodaeth gennym, cysylltwch â Deborah.a.jones@swansea.ac.uk  

 

Pa wybodaeth a gasglwn?

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol ar y rheiny sydd yn cymryd rhan yn y cwrs hyfforddi ar-lein drwy’r ffurflen gais wreiddiol ar-lein:

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Sefydliad rydych yn gweithio iddo a’ch swydd
  • Cenedligrwydd
  • Gwlad ble rydych yn gweithio/astudio/byw ynddi
  • Disgrifiad byr yn egluro pam eich bod eisiau ymgymryd â’r hyfforddiant
  • A fyddwch chi’n fodlon derbyn gwybodaeth gennym yn y dyfodol, ac a oes modd i ni gysylltu gyda chi er mwyn darganfod a yw’r hyfforddiant wedi cael effaith ar eich ymarfer proffesiynol neu ar y polisi sefydliadol.

 

Cydsyniad – Eich Hawl i’w Dynnu’n Ôl

Lle bo’ch data personol yn cael ei brosesu ar sail cydsyniad, mae gennych hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd drwy e-bostio deborah.a.jones@abertawe.ac.uk

Pam rydym yn casglu data unigolion a sut rydym yn ei ddefnyddio

Rydym yn casglu data am unigolion am y prif resymau canlynol.

  1. At ddibenion monitro hyd a lled ac angen yr hyfforddiant.
  2. At ddibenion gwerthuso, sy’n ein helpu i asesu effeithiolrwydd ac effaith yr hyfforddiant ar ymarfer proffesiynol a pholisïau sefydliadol.

Sut y caiff data ei brosesu

  • I gael mynediad at yr hyfforddiant ar-lein yn gyntaf mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais ar-lein fer. Yna caiff y ffurflen ei chyflwyno i weinyddwr yn y Brifysgol a fydd yn ystyried y cais ac yn ei gymeradwyo os caiff y cais ei dderbyn.
  • Cedwir data’r ymgeisydd ar weinydd diogel wrth iddynt ddilyn yr hyfforddiant.
  • Gall y prosiect gysylltu â’r ymgeisydd ar unrhyw adeg a holi cwestiynau pellach ynghylch a yw’r hyfforddiant wedi cael effaith ar eu hymarfer proffesiynol neu eu polisi sefydliadol.

 

Am ba mor hir y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd TSSWP yn cadw eich gwybodaeth am hyd at chwe blynedd.

 

Rhannu eich data  

Mae posib y bydd eich data yn cael ei rannu gydag aelodau eraill o’r Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw neu gyda Phrifysgol Abertawe.

Bydd data cyffredinol ac anhysbys yn cael ei ddadansoddi ar gyfer pwrpas ymchwil a’i ddefnyddio ar gyfer cyflwyno Astudiaeth Achos Effaith REF. Bydd y cyhoeddiadau wedi eu hanelu at y gymdeithas academaidd yn ogystal â rhanddeiliaid e.e. cyllidwyr posib, sefydliadau partner posib, etc. 

Ni rennir gwybodaeth bersonol gydag unrhyw un y tu allan i’r Brifysgol, heblaw’r Prosiect Gweithwyr Rhyw sy’n Fyfyrwyr, o dan gytundeb prosesu data, ac ni chaiff unrhyw ddata ei drosglwyddo dramor.

 

Diogelu eich gwybodaeth

Mae deddfwriaeth diogelu data yn ein gorfodi i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, a byddwn yn dilyn y mesurau priodol i atal mynediad heb awdurdod a datgelu. Rhoddir awdurdodaeth  i aelodau  staff y mae angen mynediad arnynt at rannau penodol o’ch gwybodaeth neu eich holl wybodaeth yn unig. Bydd gwybodaeth y cedwir amdanoch chi ar ffurf electronig yn destun cyfyngiadau cyfrinair a diogelwch eraill, caiff ffeiliau papur eu storio mewn ardaloedd diogel â mynediad a reolir.

Gwneir rhywfaint o’r prosesu ar ran y Brifysgol gan sefydliad a gontractwyd at y diben hwnnw. Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran y Brifysgol dan rwymedigaeth i brosesu data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

 

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro neu ddileu, i gyfyngu ac i drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’r defnydd o’r data ar gyfer y dibenion hyn, neu’n awyddus i gael copi o’r data sydd gennym amdanoch, bydd angen i chi yrru eich cais neu wrthwynebiad yn ysgrifenedig at Swyddog Diogelwch Data'r Brifysgol:-

 

Swyddog Diogelu Data

Swyddfa’r Is-ganghellor

Prifysgol Abertawe

Abertawe, SA2 8PP

E-bost: dataprotection@swansea.ac.uk   

 

Mwy o gwestiynau?

Os oes gennych fwy o gwestiynau ynglŷn â’r ffordd rydym yn prosesu data monitro unigol, mae croeso i chi gysylltu â Debbie Jones Deborah.a.jones@swansea.ac.uk

 

Sut i wneud cwyn?

Os nad ydych yn hapus â’r ffordd mae eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei phrosesu, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Brifysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, mae gennych hawl i wneud cais uniongyrchol i’r  Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office,

Wycliffe House,

Water Lane,

Wilmslow,

Cheshire, SK9 5AF

www.ico.org.uk

Prif ddewislen