1 Mae'r term 'Gwaith Rhyw' yn cynnwys ystod o weithgareddau - nid puteindra’n unig.
2. Roedd bron i 5% o'r myfyrwyr a holwyd gennym wedi gweithio yn y diwydiant rhyw.
3. Roedd myfyrwyr gwrywaidd yr un mor debygol â myfyrwyr benywaidd o fod ynghlwm â'r diwydiant rhyw.
4. Roedd bron i 22% o'r myfyrwyr a holwyd gennym wedi ystyried gweithio yn y diwydiant rhyw.
5. Mae amrywiaeth o gymelliannau dros weithio yn y diwydiant rhyw.
6. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith diwydiant rhyw y mae myfyrwyr yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon.
7. Mae’n debygol mai dros dro yw cysylltiad myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw â’r diwydiant rhyw.
8. Dywedodd myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw wrthym mai cadw’r gwaith yn gyfrinachol yw’r agwedd fwyaf negyddol o weithio yn y diwydiant rhyw.
9. Mae myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr na’r boblogaeth fyfyrwyr yn gyffredinol.
10. Mae'n bwysig canolbwyntio ar y 'person cyfan' wrth ddelio â myfyriwr sy'n datgelu gwaith yn y diwydiant rhyw.