Diolch am gofrestru ar y cwrs hwn a ddatblygwyd gan y Prosiect Gwaith Rhyw Myfyrwyr. Cewch wybodaeth bellach am y gwaith o ddatblygu’r hyfforddiant a’i gynnwys yn yr adran ‘Cyflwyniad’.
Cyn cychwyn ar yr hyfforddiant dylech ddarllen y nodiadau ‘Partneriaid’ a ‘Chyfrinachedd’ ar y brif ddewislen sy’n rhoi manylion pellach am y ffyrdd rydym yn storio ac yn defnyddio data a gesglir trwy’r wefan hon.
O dan y tab ‘Adnoddau’ ceir deunydd ychwanegol gan gynnwys ffeithluniau y gellir eu lawrlwytho er mwyn eich atgoffa chi a’ch cydweithwyr am rai o’r prif faterion y maent wedi’u cynnwys yn yr hyfforddiant hwn. Mae’r tab Adnoddau hefyd yn cynnwys y fideos a ddefnyddir yn ystod yr hyfforddiant er mwyn i chi eu gwylio ar unrhyw adeg.
Er mwyn dechrau’r pecyn hyfforddiant ei hun, ewch i’r tab ‘Modiwlau’. Yna bydd modd i chi ddechrau naill ai Modiwl; 1 neu Fodiwl 2. Rydym yn argymell eich bod yn dechrau gyda Modiwl 1 a byddwn yn eich annog i orffen y modiwl cyntaf ar yr un pryd – dyluniwyd y pecyn i’ch galluogi i gymryd hoe rhwng y ddau fodiwl.
Ar ôl i chi ddewis eich modiwl, gwasgwch ‘Cychwyn’ i ddechrau’r hyfforddiant. Ar ôl yr adran gyflwyno bydd modd i chi lywio tudalennau’r hyfforddiant trwy glicio ar ‘Tudalen Nesaf’. Ar ôl y dudalen gyntaf bydd modd i chi fynd yn ôl trwy glicio ar ‘Tudalen Flaenorol’.
Mae’r modiwlau’n cynnwys testun a fideos sy’n llawn gwybodaeth ac ymarferiadau i’w cwblhau. Pan fyddwch chi’n gwasgu ‘Tudalen Nesaf’ ar yr ymarferiad cewch wybod faint o ymarferiadau a atebwyd yn gywir. Os na lwyddoch chi i ateb pob cwestiwn yn gywir cewch eich annog i fynd yn ôl a cheisio gweithio trwy eich atebion anghywir er mwyn i chi ddeall y prif faterion.
Ar ôl i chi gwblhau’r ddau fodiwl, ewch i’r tab ‘Gwerthuso’ a chwblhau’r ffurflen adborth fer am eich profiad o’r hyfforddiant. Bydd hyn yn ein helpu ni i wella ein hadnoddau hyfforddiant.