Cyflwyniad

Croeso i'r pecyn hyfforddi ar-lein a ddatblygwyd gan y Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw

Croeso i'r pecyn hyfforddi ar-lein a ddatblygwyd gan y Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw

Mae'r pecyn hyfforddi hwn yn cael ei gyflwyno mewn dau fodiwl.

Nod modiwl 1 yw rhoi cyflwyniad i waith rhyw myfyrwyr. Bydd y modiwl hwn yn:

•Archwilio diffiniadau o waith rhyw a gweithgareddau yn y diwydiant rhyw;

•Ystyried statws cyfreithiol gwaith rhyw yng Nghymru a Lloegr;

•Ystyried cyfansoddiad demograffig myfyrwyr sy'n gweithio yn y diwydiant rhyw yn y Deyrnas Unedig;

Nod modiwl 2 yw rhoi dealltwriaeth o sut i ddelio â myfyrwyr sy'n datgelu eu bod yn gweithio yn y diwydiant rhyw a chyfarwyddyd ar sut i ddelio’n ymarferol â sefyllfaoedd o'r fath. Mae'r modiwl hwn hefyd yn archwilio cymhellion ac anghenion posibl myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw.

Cyflwyniad

Prosiect Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw

Beth yw'r Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw?

Mae'r fideo byr isod yn esbonio nodau'r Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect a phartneriaid y prosiect trwy fynd i wefan y prosiect.

Prif ddewislen