
Prifysgol Abertawe / Swansea University
Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe yn gwneud cynnydd trawiadol dan arweinyddiaeth newydd yr Athro Elwen Evans sy’n Gwnsler y Frenhines troseddol blaenllaw. Daeth y Coleg yn gyntaf yng Nghymru a Lloegr am foddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2015. Mae'r Adran Droseddeg yn cynnig cyrsiau gradd ac ôl-radd rhagorol yn y ddisgyblaeth ac mae wedi llwyddo'n ardderchog yn Nhablau’r Guardian 2016 gan ddod yn gyntaf o 60 o adrannau yn y DU.
Arweiniodd yr Athro Tracey Sagar, Pennaeth Troseddeg, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe strategaeth arloesi ac ymgysylltu’r prosiect ac fel Prif Ymchwilydd fe ddarparodd gyfeiriad ar gyfer yr ymchwil ac arbenigedd strategol.
Arweiniodd Debbie Jones, Athro Cysylltiol Troseddeg a Chyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig Troseddeg, Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, y gwaith o ddatblygu fframwaith methodolegol arloesol a chreadigol y prosiect a rheoli holl elfennau'r prosiect.
Mae Debbie Jones a'r Athro Sagar hefyd yn Gyd-gyfarwyddwyr y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb (CSS). Ariannwyd y CSS gan Gronfa Arloesi’r Loteri Fawr a'i ddatblygu ar gyfer ymarferwyr, llunwyr polisi a chynulleidfaoedd academaidd.
Dadansoddodd Dr Katrien Symons, Cynorthwyydd Ymchwil (Gorffennaf 2014 - Mehefin 2015) ddata a chynorthwyodd gyda’r gwaith o ddosbarthu canlyniadau’r ymchwil.
Roedd Dr Jacky Tyrie, Cynorthwyydd Ymchwil (Awst 2012 - Awst 2014) yn arwain ar ddosbarthu’r arolwg myfyrwyr a'r dadansoddiad cychwynnol ohono.