Cyfranogiad Myfyrwyr yn y Diwydiant Rhyw
Mae rhai diffiniadau allweddol eraill yn cynnwys:
-
‘Rhyw masnachol' - cyfnewid arian neu nwyddau am wasanaethau rhywiol. Mae hyn bob amser yn cynnwys gweithiwr rhyw a chleient ac mae'n aml yn cynnwys trydydd parti hefyd.
-
'Gweithwyr rhyw' - merched, dynion a phobl drawsryweddol sy'n derbyn arian neu nwyddau yn gyfnewid am wasanaethau rhywiol, ac sy'n diffinio'r gweithgareddau hynny, yn ymwybodol, fel modd o greu incwm hyd yn oed os nad ydynt yn ystyried gwaith rhyw fel eu galwedigaeth.
-
'Trydydd partïon' - pobl sy'n chwarae rolau ategol mewn rhyw masnachol. Mae'r swyddi hyn yn cynnwys trefnu cyfarfodydd rhwng gweithwyr rhyw a chleientiaid a/neu ddarparu adnoddau a gwasanaethau. Mae'r rolau hyn yn amrywio o le i le ac o ran dylanwad a phŵer dros ryw masnachol a gweithwyr rhyw.
-
"Mae’r diwydiant rhyw masnachol yn ffenomen sy’n cyfuno unigolion, sefydliadau, arferion a negeseuon - eglur ac ymhlyg, a ddymunir ac na ddymunir - sy'n ymwneud â rhyw masnachol" (Overs, 2002: 2).