Stigma
Fel y gwelwch, roedd ein cyfranogwyr yn profi agweddau da a drwg yn eu gwaith, ond efallai mai’r syndod yw mai cyfrinachedd - a achosir gan y stigma o weithio yn y diwydiant rhyw – yw’r mater sy'n peri pryder mwyaf i'n cyfranogwyr.
Roedd mynd i'r afael â stereoteipio a stigma fel rhan o’r broses o gynhwysiant cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yn her allweddol i'r Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw (TSSWP).
Yn ystod ymgyrch Ffeiriau’r Glas olaf y prosiect ledled Cymru fis Medi/Hydref 2014, rhoddodd y tîm prosiect adborth i fyfyrwyr am ganfyddiadau allweddol yr ymchwil. Cwblhaodd 1687 o fyfyrwyr holiadur
- Dywedodd 86% eu bod yn fwy ymwybodol o’r stigma y gall gweithwyr rhyw ei
- Dywedodd 90% y byddent yn fwy tebygol o herio stigma yn erbyn gweithwyr
Yn y fideo isod, mae 'Beth', ymchwilydd cyfoedion gyda TSSWP, yn rhannu ei phrofiadau o weithio yn y diwydiant rhyw. Mae actores yn chwarae rhan Beth. Gallwch weld mwy o brofiadau myfyrwyr a gymerodd ran yn y prosiect yn ein ffilm 'Fog of Sex' a gynhyrchwyd gyda myfyrwyr.